Gwlad Belg yn curo Cymru o drwch blewyn ar noson ddramatig

Harry Wilson sydd wedi sgorio fwyaf dros Gymru o dan Craig Bellamy
- Cyhoeddwyd
Mae Gwlad Belg wedi curo Cymru o 4 – 3 mewn gêm ddramatig a chofiadwy ym Mrwsel nos Lun.
Yn y diwedd fe brofodd sêr mawr Gwlad Belg yn ormod i Gymru gan ddod â rhediad di-guro Craig Bellamy i ben.
Mae Cymru bellach yn yr ail safle yn y grŵp ar gyfer y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026.
Dim ond enillwyr y grŵp fydd yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd, gyda'r tîm sy'n gorffen yn ail yn cael lle yn y gemau ail gyfle.

Brennan Johnson yn sgorio trydydd gôl Cymru
Fe enillodd Gwlad Belg gic o'r smotyn ychydig ar ôl 10 munud a manteisiodd Lukaku ar y cyfle.
Fe ddaeth ar ôl i ymgais Kevin De Bruyne daro braich Brennan Johnson yn y cwrt cosbi.
Munudau'n ddiweddarach mae Tielemans yn bachu eu hail gyda gôl wych i'r gornel dde uchaf.
Doku sy'n camu ar ei droed chwith i gipio'r trydydd ac o fewn hanner awr a Chymru heb wneud fawr o'i le roedd hi'n 3-0.
Ond, eiliadau cyn hanner amser mae Cymru'n enill cig gosb eu hunain a Harry Wilson yn ei chladdu, 3-1.
Cymru dal ynddi?
Dechreuodd Cymru'r ail hanner yn gryf a thua 50 munud i mewn i'r gêm fe sgoriodd Sorba Thomas gan aildanio'r ornest.
Roedd yna gyfleoedd ar ddwy ochr y cae a'r nesaf i ganfod cefn y rhwyd oedd Brennan Johnson.
3-3 gydag ugain munud yn weddill a chefnogwyr yn dechrau meddwl ai hon fydd y tro cyntaf i Gymru guro Gwlad Belg oddi cartref?
Gyda dwy funud i fynd, fe chwalodd Kevin De Bruyne'r freuddwyd honno gan sgorio gydag ergyd cyntaf o groesiad hyfryd.

Kevin De Bruyne yn sgorio yn y munudau olaf
Fe wnaeth Bellamy dri newid i'r tîm wnaeth drechu Liechtenstein 3-0 yng Nghaerdydd nos Wener.
Bu rhaid i Neco Williams adael y cae nos Wener yn dilyn anaf i'w goes felly'r amddiffynnwr canol cae Chris Mepham gamodd i'r adwy gyda Ben Davies yn symud i chwarae fel cefnwr chwith.
Fe ddychwelodd Jordan James i ganol cae gyda David Brooks yn ychwanegu at yr ymosodwyr ar ôl i Liam Cullen a Kieffer Moore gael eu henwi ar y fainc.

Mae Cymru yn yr ail safle yn y grŵp ar gyfer y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026
Mae Gwlad Belg bellach wedi ennill 42 gêm ragbrofol yn olynol.
Y tro diwethaf i Wlad Belg golli mewn gêm ragbrofol oedd yn ôl yn 2015 ac yn erbyn Cymru oedd honno.
Nos Lun oedd y ddegfed gêm rhwng y ddwy wlad ers 2012.
Y tro diwethaf i Gymru guro Gwlad Belg oedd yn rownd wyth olaf Euro 2016 - efallai'r gêm bwysicaf a mwyaf cofiadwy erioed rhwng y ddwy wlad.
Mae Cymru yn Grŵp J gyda Gogledd Macedonia, Liechtenstein, Kazakhstan a Gwlad Belg.
Mi fydd gêm nesaf Cymru oddi cartref yn erbyn Kazakhstan ar 4 Medi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd25 Mawrth