Bachgen 15 oed yn yr ysbyty ar ôl achos o saethu yng Nghaerdydd

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad yn ardal Pontprennau yng Nghaerdydd nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gymryd i'r ysbyty ar ôl achos o saethu mewn tŷ yng Nghaerdydd yn ôl Heddlu De Cymru.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yng Nghlos y Ffynnon, Pontprennau, Caerdydd tua 20:00 nos Sadwrn.
Yn ôl Heddlu'r De, dyw anafiadau'r bachgen ddim yn rhai sy'n peryglu ei fywyd.
Does dim sôn bod unrhyw un wedi cael ei arestio, ac mae'r heddlu'n dweud eu bod yn parhau i ymchwilio, sydd wedi arwain at "bresenoldeb amlwg gan yr heddlu yn yr ardal".
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark O'Shea: "Rydym yn deall y pryder y bydd y digwyddiad hwn yn ei achosi, ac rydw i am sicrhau'r gymuned leol bod timau o dditectifs a staff arbenigol yn gweithio'n gyflym i roi trefn ar ddigwyddiadau nos Sadwrn."