Tarddiad afon Aled ar Fynydd Hiraethog yn Sir Conwy.  Prin yw'r dwr yn y nant ar hyn o bryd, gyda'r glaswellt gerllaw yn troi'n frown hefyd. 
Ffynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dyffryn Rhyd-y-Bedd ar Fynydd Hiraethog yn Sir Conwy, lle mae Afon Aled yn tarddu fel nant fechan - ond prin ei bod yn llifo ar hyn o bryd

Mae lefelau cronfeydd wedi disgyn yn gynt na'r arfer y gwanwyn hwn hefyd.

Ar 8 Mai roedd cronfeydd Dŵr Cymru 79% yn llawn yn y de-ddwyrain, 89% un llawn yn y de-orllewin, 90% yn y gogledd-ddwyrain a 92% yn y gogledd-orllewin.

Mae'r cwmni eisoes wedi annog cwsmeriaid i ystyried eu defnydd o ddŵr.

Dywedodd Ian Christie, un o'r uwch-reolwyr, eu bod yn "gweithredu mesurau i ddiogelu cyflenwadau yng nghronfeydd yr ucheldiroedd tra'n bod ni'n gallu", tra'n "parhau i wneud y mwyaf o ymdrechion i leihau gollyngiadau o'n pibellau".

'Cyfnod allweddol i bysgod ac amaeth'

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y bu "dim neu braidd dim glaw ar draws Cymru" hyd yma fis Mai, a bod "y rhan fwyaf o afonydd yn isel ar hyn o bryd".

"Mae'r gwanwyn yn gyfnod allweddol i bysgod sy'n mudo, yn ogystal â rheolaeth tir ac amaeth," meddai Caroline Harries, pennaeth y tîm rheoli dŵr.

"Mae'n timau yn monitro lefelau a thymereddau afonydd yn ofalus," eglurodd.

"Mae CNC yn annog pobl a busnesau i ddefnyddio eu dŵr yn gall bob dydd, ac i gymryd gofal arbennig tra'n ymweld â chefn gwlad wrth i ni weithio ar y cyd i warchod yr amgylchedd naturiol."

Tir sych sy'n graciau i gyd ar gae fferm ger Abergele, Sir Conwy.  Ffynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae undebau amaeth wedi rhybuddio bod y tywydd sych yn peri pryder i ffermwyr wrth dyfu cnydau a phorfa i'w hanifeiliaid

Mae Grŵp Cyswllt Sychder Cymru'n cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru ac yn dod â chwmnïau dŵr, CNC, y Swyddfa Dywydd ac arweinwyr amaethyddol, amgylcheddol a iechyd cyhoeddus ynghyd.

Mae BBC Cymru ar ddeall y bydd yn cwrdd ddydd Iau i adolygu'r data diweddaraf, ac o bosib y bydd yna gyhoeddiadau yn dilyn hynny.

Fe allai'r arbenigwyr benderfynu datgan cyfnod o dywydd sych estynedig ar draws Cymru, neu rannau o'r wlad.

Byddai'r newid yma mewn statws yn cynrychioli cam arall tuag at ddatgan sychder swyddogol.

Mae gwefan CNC yn nodi y byddai hyn yn golygu bod y corff yn "yn cynyddu eu camau gweithredu i helpu i liniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd, tir, defnyddwyr dŵr a phobl".

Gallai hyn gynnwys mwy o fonitro ac archwiliadau, sicrhau bod cwmnïau dŵr yn dilyn eu cynlluniau sychder, darparu cyngor ac arweiniad i ffermwyr a sicrhau bod y sawl sy'n tynnu dŵr o afonydd yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded.

Gail Davies-Walsh o grwp Afonydd Cymru yn sefyll ar lan afon Wysg ger Casnewydd yn gwisio cot binc a thop glas.  Mae ganddi wallt cyrliog, brown a sbectol du.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gail Davies-Walsh o grŵp Afonydd Cymru yn annog pobl i feddwl nawr am eu defnydd o ddŵr

Yn ôl Gail Davies-Walsh, prif weithredwr Afonydd Cymru, byddai newid mewn statws yn arwain at "gynnydd mewn negesu a chyfathrebu" gan bawb sydd ynghlwm â chynllunio ar gyfer sychder.

"Ry'n ni wir yn gofyn i bobl feddwl am y ffaith bod unrhyw ddŵr y maen nhw'n ei ddefnyddio yn eu cartrefi yn dod o gronfa neu afon yng Nghymru," meddai.

Byddai bod yn gall â defnydd dŵr nawr "yn lleihau faint o fesurau sy'n rhaid i ni eu cymryd yn hwyrach" wrth i dywydd sych barhau, eglurodd.

Gallai hefyd ddiogelu pysgod a bywyd gwyllt "sy'n trio goroesi mewn dŵr is, sy'n cynhesu".

Tudur Davies, 78 ar ei feic yn barod i fynd i dynnu lluniau.  Mae'n gwisgo cot las gyda siaced felyn llachar drosti a helmet ddu am ei ben.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tudur Davies, 78 o Lanelwy, ei fod wedi'i daro gan gymaint o arwyddion o sychder posib mor gynnar yn y flwyddyn

Y cyn-athro a darlithydd mewn gwyddorau gwlad ac amaethyddiaeth, Tudur Davies, 78, a anfonodd nifer o'r lluniau sy'n ymddangos yn yr erthygl hon.

Mae'n beicio o amgylch ei ardal leol yn Llanelwy, Sir Ddinbych, bob diwrnod yn tynnu lluniau, gan ddweud iddo gael ei daro "bod 'na arwyddion o sychder... mor gynnar yn y flwyddyn".

"Ar fynydd Hiraethog yn enwedig mae rhywun yn cysylltu cerdded ar y tir mawnog a theimlo dŵr a'r mawn yn symud o dan eich traed," meddai.

"Ond y tro yma roedd sŵn crensian - y tir wedi sychu.

"Ac o edrych o gwmpas, mae'r tir ar y bryniau yn dechrau llosgi a throi'n frown.

"Hyd yn oed os gewn ni dipyn o law wythnos nesa', mae mynd i gymryd cryn dipyn o amser i bethau newid."

'Wedi dechrau ei waith yn barod'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "gweithio gyda phartneriaid i fonitro lefelau cyrff dŵr ar draws y wlad".

"Mae Grŵp Cyswllt Sychder Cymru wedi dechrau ei waith yn barod a bydd yn cwrdd yn rheolaidd i rannu diweddariadau ar y sefyllfa, a sicrhau bod cyflenwadau dŵr yn cael eu rheoli'n effeithiol a bod yr amgylchedd yn cael ei warchod," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig